Cofnodion cryno - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Iau, 10 Hydref 2019

Amser: 10.04 - 12.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5738


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Bethan Sayed AC (Cadeirydd)

Mick Antoniw AC

John Griffiths AC

Delyth Jewell AC

Rhianon Passmore AC

David Melding AC

Tystion:

Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion a Rhaglenni, ITV Wales

Jonathan Hill, ITV Cymru Wales

Zoe Thomas, ITV Wales

Branwen Thomas, ITV Cymru Wales

Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr, BBC Cymru Wales

Elan Closs Stephens, Aelod o Fwrdd y BBC ar gyfer Cymru

Staff y Pwyllgor:

Robert Donovan (Clerc)

Lowri Jones (Dirprwy Glerc)

Osian Bowyer (Ymchwilydd)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Carwyn Jones AC; dirprwyodd Rhianon Passmore AC ar ei ran.

 

</AI1>

<AI2>

2       Gwaith craffu blynyddol ar ITV Cymru

2.1 Ymatebodd tystion o ITV Cymru i gwestiynau gan y Pwyllgor.

2.2 Cytunodd tystion o ITV Cymru i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ynghylch:

Ø  y diwygiad sydd ei angen i fynd i'r afael â'r gostyngiad yng ngwerth trwydded ITV Cymru Wales; a

Ø  siâp gwariant yn y dyfodol yng Nghymru oherwydd gwell allbynnau.

 

</AI2>

<AI3>

3       Gwaith craffu blynyddol ar BBC Cymru Wales

3.1 Ymatebodd tystion o BBC Cymru Wales i gwestiynau gan y Pwyllgor.

3.2 Cytunodd tystion o BBC Cymru Wales i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ynghylch nifer yr oriau rhaglenni ychwanegol a gynhyrchir yn erbyn y cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd yn 2017.

3.3 Datganodd Rhianon Passmore AC ei bod yn gyn-aelod o Gyngor Darlledu BBC Cymru.

 

 

</AI3>

<AI4>

4       Papurau i’w nodi

</AI4>

<AI5>

4.1   Gohebiaeth ar y rhaglen Cyfuno

4.1 Nododd yr Aelodau y papur.

</AI5>

<AI6>

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

5.1 Derbyniodd yr Aelodau y cynnig.

</AI6>

<AI7>

6       Ôl-drafodaeth breifat

6.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth.

</AI7>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>